...

  • Croeso i Ganolfan TA Cymru!

  • Cyflawni Ymchwil a Arweinir gan Ddiwydiant

  • Meithrin Atebion Arloesol

Integreiddio Ynni Adnewyddadwy, Effeithlonrwydd Deunydd a Phrosesau Diwydiannol

 Sefydlwyd Canolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig (Canolfan TA) ym Mhrifysgol De Cymru yn 2008. Mae'r Brifysgol wedi bod yn ymchwilio ac yn datblygu prosesau sy'n gysylltiedig â Threulio Anaerobig (TA) ers canol y 1970au, a nod cychwynnol y Ganolfan TA oedd darparu mecanwaith a fyddai'n galluogi'r wybodaeth academaidd hon i fod o fudd i ddatblygiad y diwydiant TA newydd.

Ers 2008, mae’r diwydiant treulio anerobig yn y DU ac ar draws y byd wedi esblygu’n sylweddol, ac felly hefyd y Ganolfan TA.

Mae’r Ganolfan TA yn darparu prosiectau ymchwil a arweinir gan y diwydiant sy’n canolbwyntio ar ddatblygu prosesau biolegol y gellir eu hintegreiddio â gweithrediadau diwydiannol megis cynhyrchu ynni adnewyddadwy, trin gwastraff a dŵr gwastraff, prosesau adfer neu brosesau gweithgynhyrchu i gyflwyno ystod o fuddion megis effeithlonrwydd materol ac economaidd a lleihau effeithiau amgylcheddol.

Rydym yn gweithio gyda diwydiant a nifer o randdeiliaid eraill i ddatblygu a gweithredu atebion arloesol ac i wneud y gorau o brosesau presennol. Mae prosiectau'n amrywio o ran maint o ychydig ddyddiau o ymchwil wedi'i thargedu i raglenni ymchwil cydweithredol 3+ blynedd, a chyflwynir ein holl waith gyda thrylwyredd academaidd.

Mae ein meysydd gweithgaredd eang yn cynnwys:

  • Optimeiddio cyfleusterau Treulio Anaerobig
  • Cynhyrchion gwerth ychwanegol o fio-ddeunyddiau a sgil-gynhyrchion
  • Cynhyrchion gwerth ychwanegol o nwyon gwastraff diwydiannol
  • Prosesau biolegol i storio ynni adnewyddadwy

Sefydlwyd y Ganolfan TA gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru (2008-2013) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (2010 - 2014).

 

Mae'r wefan hon yn rhoi mwy o fanylion am y math o brosiectau rydym wedi'u cwblhau neu sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Defnyddiwch y cyfleuster "Cysylltu" os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, neu os oes gennych ddiddordeb arbennig yn ein gwaith.