...

Optimeiddio Microbiolegol

Optimeiddio Perfformiad Treuliwr trwy Ddeall y Newidiadau mewn Poblogaethau Microbaidd

Mae Treulio Anerobig yn broses biocemegol a gyfryngir gan gonsortiwm o ficrobau. Mae'r boblogaeth ficrobaidd o fewn treuliwr yn ddeinamig ac yn cael ei heffeithio gan nifer o ffactorau megis tymheredd a pH, presenoldeb cemegau ataliol fel amonia, ac wrth gwrs y bwyd a gyflenwir iddynt.

Mae'r Ganolfan Treulio Anaerobig wedi datblygu dulliau i olrhain yn feintiol y newidiadau mewn anerobau allweddol o fewn gweithfeydd treulio anaerobig. Mae cyfuno'r canlyniadau hyn â data gweithredol peiriannau safonol yn darparu offeryn diagnostig pwerus ac yn caniatáu i weithredwyr gweithfeydd reoli newidiadau gweithredol yn well er mwyn lleihau'r effeithiau ar boblogaethau microbaidd.

Mae'r dechneg wedi'i defnyddio ar sawl cyfleuster treulio anaerobig diwydiannol ar raddfa lawn sy'n trin ystod o borthiant ac mae wedi galluogi'r Ganolfan Treulio Anaerobig i argymell newidiadau gweithredol i wneud y gorau o effeithlonrwydd cyffredinol yr offer.

Mae'r Ganolfan TA hefyd wedi datblygu nifer o strategaethau ar gyfer symud a chyfoethogi poblogaethau microbaidd i wella perfformiad prosesau.