...

Canolfan Ragoriaeth Bioburo BEACON - partneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Abertawe a Phrifysgol De Cymru.

Ar 1 Gorffennaf 2019, daeth Canolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig PDC yn aelod o bartneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe a Phrifysgol De Cymru gan weithio ym maes trosi biomas a biowastraff yn gynhyrchion bio-seiliedig gyda chymwysiadau masnachol.

Mae Beacon yn bennaf yn helpu busnesau Cymreig i archwilio cyfleoedd bio-seiliedig ar gyfer twf trwy ddarparu mynediad at offer arbenigol eang ac arbenigedd gwyddonol yn ein pedwar sefydliad partner.

 

 

Gallwn helpu:

  • Busnesau i roi gwerth ar eu ffrydiau gwastraff, gan ennill gwerth ychwanegol o sgil-gynhyrchion eu prosesau gweithgynhyrchu
  • Y diwydiannau Adeiladu, Pecynnu a Gweithgynhyrchu trwy ddatblygu deunyddiau biogyfansawdd newydd
  • Y diwydiant Biowyddoniaeth trwy ddatblygu systemau a thechnolegau microbaidd neu ensymau newydd ar gyfer prosesu biomas
  • Y diwydiant cemegol drwy ddarparu ffynonellau newydd o gemegau ‘gwyrdd’
  • Cynhyrchwyr tanwydd drwy gynnig tanwydd ‘gwyrdd’, sy’n effeithio ar y Rhwymedigaeth Tanwydd Cludiant Adnewyddadwy (RTFO) a lleihau allyriadau carbon
  • Cynhyrchwyr ynni trwy dreialu gwahanol stociau porthiant a chnydau bio-ynni
  • Cymunedau gwledig trwy gymhwyso technoleg bioburfa i brosesu cnydau nad ydynt yn fwyd

Gall partneriaid BEACON ymgymryd â:

  • Ffurfio biogyfansoddion newydd
  • Allwthio/bioblastigau
  • Cemegau/cymwysiadau newydd
  • Peirianneg fetabolaidd murumau
  • Modelu protein fel ensymau newydd, e.e. ar gyfer diwydiant bwyd neu fiobrosesu

Mae Canolfan TA Cymru yn PDC yn canolbwyntio ar atebion technolegol ar gyfer:

  • Trosiadau biolegol defnyddiau yn danwydd, polymerau, rhan-gynnyrch neu gynhyrchion newydd
  • Optimeiddio prosesau biodrosi diwydiannol
  • Integreiddio gwerth ychwanegol â diwydiannau allweddol eraill (e.e. ynni adnewyddadwy a’r sector cemegol a phlastigau gwyrdd)

Prosiect partners:

Ariennir y prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop