...

Prosiect SMART Circle

Ym mis Medi 2017 dyfarnwyd prosiect ymchwil diwydiannol cydweithredol SMART Circle i’r Ganolfan TA. Dyfarnodd rhaglen SMART Expertise Llywodraeth Cymru ychydig o dan £1 miliwn o arian Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) i’r grŵp i gyflawni ystod eang o weithgarwch ymchwil diwydiannol cydweithredol dros gyfnod o dair blynedd. Mae'r prosiect yn cael arian cyfatebol i'r un gwerth gan gonsortiwm o 8 cydweithredwr diwydiannol.

Bydd y consortiwm yn cydweithio i archwilio sut y gellir defnyddio biobrosesau arloesol i wella effeithlonrwydd cyffredinol ystod o weithrediadau diwydiannol. Rhennir gweithgareddau technegol i'r Pecynnau Gwaith canlynol:

Pecyn Gwaith 2 - Defnyddio Nwyon Diwydiannol Gwastraff

  • Arddangosiad o broses fiolegol i drawsnewid nwyon gwastraff gan gynnwys carbon deuocsid yn danwydd defnyddiol.

Pecyn Gwaith 3 - Dylunio a Monitro Prosesau Uwch

  • Datblygu technolegau monitro newydd ar gyfer prosesau biotechnolegol diwydiannol sy'n galluogi penderfyniadau rheoli prosesau gwell i gael eu gwneud.

Pecyn Gwaith 4 - Adennill Moleciwlau Gwerth Uchel

  • Adennill moleciwlau gwerth uchel neu nas defnyddiwyd gan gynnwys maetholion o ddeunyddiau gwerth isel fel slwtsh carthion, gwastraff masnachol a diwydiannol.

Pecyn Gwaith 5 - Asesiad Amgylcheddol ac Economaidd

  • Asesiadau amgylcheddol ac economaidd o'r technolegau a ystyriwyd yn WP2-4.

Y nod yn y pen draw yw datblygu systemau biodechnoleg mwy effeithlon a allai ddarparu atebion ymarferol i helpu busnesau i ddod yn fwy effeithlon o ran adnoddau.

 

Ehangu'r Prosiect (Awst 2021 - Hydref 2022)

Ym mis Gorffennaf 2021 dyfarnwyd cyllid pellach o 533k i’r Consortiwm i ehangu gweithgareddau’r prosiect a chynnal gweithgarwch tan ddiwedd mis Hydref 2022. Ychwanegwyd tri phartner diwydiannol ychwanegol a phartner academaidd ychwanegol at y prosiect. Ehangwyd cwmpas y gwaith i gynnwys:

WP2 - Gweithredu gwaith arddangos biomethaneiddio, asesu cyfleoedd adfer gwres, ac effaith newid tanwydd ar brosesau diwydiannol.

WP3 - Cyfleoedd ar gyfer cyd-brosesu porthiant lluosog mewn gweithfeydd trin gwastraff biolegol diwydiannol.

WP4 - Arddangos strategaethau adennill maetholion, datblygu deunyddiau newydd ar gyfer adennill CO2, a gwerthuso cyfleoedd i adennill carbon a maetholion o ddatblygiadau preswyl a defnydd cymysg.

WP5 - Gwerthusiad o ddichonoldeb techno-economaidd y cysyniadau uchod.

 

Mae ein Cydweithwyr a darparwyr arian cyfatebol ar gyfer Cam 1 y prosiect yn cynnwys y sefydliadau canlynol:

 

 

 

 

 

 

Y partneriaid ychwanegol a gyfrannodd at Ehangu’r prosiect rhwng Awst 2021 a Hydref 2022 yw:

 

 

 

 

 

Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a weinyddir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a rhaglen SMART Expertise Llywodraeth Cymru