...

Mae Canolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig yn darparu ystod eang o gymorth technegol ac annhechnegol i randdeiliaid TA a bio-nwy. Mae'r gefnogaeth a ddarparwn yn gwbl annibynnol. Nid ydym yn gysylltiedig ag unrhyw gyflenwyr, gwneuthurwyr neu fathau o dechnoleg. Mae sawl ffordd o ddylunio a gweithredu gwaith TA, a dylid gwerthuso pob cynllun fesul achos.

CYMORTH TECHNEGOL A DADANSODDI

Mae'r Ganolfan TA yn cynnal gwaith ymchwil a datblygu wedi'i dargedu ar y cyd â diwydiant i wella effeithlonrwydd prosesau treulio anaerobig ac i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau arloesol ar draws y sector TA a biotechnoleg ddiwydiannol.

Mae gan y Ganolfan TA offer a chyfleusterau o'r radd flaenaf, ac mae'n un o'r labordai â'r offer gorau yn y wlad sy'n llwyr ymroddedig i ddatblygu prosesau anaerobig gwell ac arloesol a hyrwyddo'r defnydd effeithlon o allbynnau prosesau. Mae hyn, ynghyd â dros ddeugain mlynedd o arbenigedd ymchwil a datblygu a gwybodaeth gref am y diwydiant, yn golygu bod y Ganolfan mewn sefyllfa dda i gefnogi anghenion y diwydiant treulio anaerobig a bionwy cynyddol. Mae ein gwasanaethau wedi'u teilwra i'ch anghenion, ond mae gweithgareddau nodweddiadol yn cynnwys:

  • Astudiaethau Cynnyrch a Phrosesau Profi Cysyniad
  • Datblygu integreiddiad newydd o dechnolegau treulio anaerobig/diwydiannol/ynni adnewyddadwy
  • Gwiriadau iechyd treulio anaerobig, rhaglenni monitro ac optimeiddio prosesau
  • Datblygu methodolegau monitro a rheoli ar gyfer gweithfeydd TA
  • Nodweddu swbstradau, matricsau treulio/adweithydd a gweddillion treuliad anaerobig
  • Profi bioddiraddadwyedd
  • Astudiaethau ar raddfa beilot
  • Gwerthuso opsiynau cyn-driniaeth
  • Monitro a chyfoethogi poblogaethau microbaidd
  • Astudiaethau rhwystrau
  • Datblygu Canllawiau a Dogfennau Arfer Gorau
  • Asesiad Cylch Bywyd o Brosesau a Chynhyrchion

 

SUT I YMGYSYLLTU Â'R GANOLFAN TA

Mae’r Ganolfan yma i helpu diwydiant i gael mynediad at y cyfoeth o wybodaeth academaidd ac arbenigedd a gasglwyd dros y 40 mlynedd diwethaf o weithgarwch ymchwil yn y maes hwn ac mae’n datblygu’n barhaus. Mae yna nifer o ffyrdd o ymgysylltu â ni gan gynnwys:

  • Ysgoloriaethau MPhil a PhD (rhaglenni ymchwil 18 mis - 3 blynedd)
  • Prosiectau Ymchwil a Datblygu Cydweithredol a Ariennir (e.e. IUK, EPSRC, BBSRC, H2020)
  • Ymgynghoriaeth Fasnachol

Rydym wedi llwyddo i gyflawni prosiectau sy'n berthnasol yn ddiwydiannol, yn amrywio o ran gwerth o ychydig filoedd o bunnoedd i filiynau o bunnoedd. Mae croeso i chi gysylltu â ni am sgwrs anffurfiol am eich gofynion.