...

Slwtsh a Dad-ddyfrio Gweddillion Treuliad Anaerobig

Ymgymerir â dad-ddyfrio slwtsh a gweddillion treuliad anaerobig a gynhyrchir gan y broses dreulio anerobig i leihau cludo dŵr pan ddefnyddir y deunyddiau hyn oddi ar y safle.

Gall clystyru gweddillion treuliadau anaerobig a gwahaniadau solid/hylif dilynol fod yn elfen gostus o’r broses gyffredinol, a gall gofynion y broses dad-ddyfrio amrywio yn unol â newidiadau i nodweddion porthiant, gweithrediad a dyluniad y broses (e.e. gosod cam cyn-driniaeth, newidiadau mewn amser cadw treuliad, ac ati).

Yn ogystal, gall newidiadau i'r broses dreulio ei hun, megis cyflwyno porthiant newydd, neu osod cam cyn-driniaeth, gael effaith sylweddol ar nodweddion y gweddillion treuliad anaerobig ac felly'r gofyniad dad-ddyfrio.

Mae ymchwilwyr y Ganolfan TA yn gweithio gyda phartneriaid diwydiannol i ddeall yn well sut mae newidiadau proses yn effeithio ar nodweddion ffisegol, cemegol a biolegol gweddillion treuliad anaerobig, ac maent yn ymchwilio i ddulliau newydd o leihau cost gyffredinol y broses dad-ddyfrio tra'n cynnal ansawdd cyson o solidau wedi'u hadfer.