...

biopol 4 life

Datblygu arbenigedd bio-polymerau yng Nghymru

 

 

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan TA Cymru yn arwain y prosiect cydweithredol 'biopol 4 life' gyda'r nod o ddatblygu mwy o gapasiti diwydiannol wrth gynhyrchu, defnyddio ac ailgylchu bio-polymerau.

 

 

Mae bron pob agwedd ar ein bywydau bob dydd yn dibynnu ar argaeledd a defnydd polymerau cost isel (plastig). Mae’n hollbwysig ein bod yn gweithio tuag at leihau eu defnydd, ond bydd yn anodd iawn eu dileu’n llawn mewn nifer o sectorau. Cynhyrchir mwyafrif helaeth y polymerau rydyn ni'n eu defnyddio heddiw gan ddefnyddio carbon ffosil, adnodd cyfyngedig sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang. Mae polymerau sy’n seiliedig ar ffosil yn achosi llygredd yn ein priddoedd, ein hafonydd a’n cefnforoedd ac mae eu cronni a’u diraddio hirdymor yn effeithio ar newid hinsawdd a bioamrywiaeth. Er y dylid ailgylchu rhai polymerau seiliedig ar ffosil, mae heriau technegol ac economaidd i'w hailgylchu i gyd am gyfnod amhenodol.

Credwn y gallai bio-polymerau allu disodli rhai o'r polymerau confensiynol a bod â'r gallu i gefnogi'r economi gylchol trwy leihau allyriadau a gwenwyndra yn sylweddol a chynyddu bioamrywiaeth. Mae Canolfan TA Cymru ym Mhrifysgol De Cymru yn arwain y prosiect 'biopol 4 life' gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth gyda'r nod o ddatblygu a diwydiannu bio-polymerau sy'n seiliedig ar garbon di-ffosil.

Nod y prosiect yw cyflymu capasiti o ran datblygu gwybodaeth a diweddaru’r cyfleusterau ymchwil ac arddangos o’r radd flaenaf yng Nghymru i gefnogi biotechnoleg ddiwydiannol (IB) i gynhyrchu polyesterau a pholyamidau sy’n deillio o ficrobau, gan ganolbwyntio ar eu cylch bywyd o borthiant, cynhyrchu polymer, prosesu, effaith diwedd oes ac adferiad cylchol. Bydd y tîm hefyd yn trosglwyddo gwybodaeth i gefnogi a datblygu twf glân a bioeconomi werdd, gan gyfrannu at iechyd a lles cymdeithas. Mae'r meysydd arbenigedd hyn yn gofyn am sgiliau amlddisgyblaethol a chyfleusterau ymchwil blaengar ar raddfa beilot sy'n adeiladu ar gydweithio annatod rhwng y 3 canolfan ragoriaeth Ymchwil a Datblygu yng Nghymru. Bydd y prosiect yn helpu i sefydlu Canolfan Ragoriaeth rithwir mewn Bio-polymerau yng Nghymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynhyrchu, diwydiannu, defnyddio neu brosesu diwedd oes bio-polymerau a'ch bod yn meddwl y gallech elwa o rywfaint o waith ymchwil a datblygu wedi'i dargedu, defnyddiwch y ffurflen cyswllt i gysylltu â ni.

Ariennir biopol 4 life gan raglen Sêr Cymru sydd â'r nod o ddatblygu partneriaethau diwydiannol ac academaidd Cymru a chynyddu gallu ymchwil Cymru. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol yr UE (ERDF) fel y'i gweinyddir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), a'r Prifysgolion sy'n cymryd rhan.