...

Gwasanaethau

 Sefydlwyd y Ganolfan TA yn 2008 i roi gwybodaeth a chymorth technegol ac annhechnegol i randdeiliaid posibl yn y diwydiant treulio anerobig sy’n datblygu, gyda’r nod cyffredinol o sefydlu diwydiant TA cadarn ac addas i’r diben yng Nghymru a’r DU.

Ers hynny, mae ein rôl a'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu wedi esblygu gydag anghenion newidiol y diwydiant treulio anerobig a'r sector diwydiannol ehangach.

Mae'r Ganolfan TA yn ymgymryd ag ymchwil a datblygu wedi'i dargedu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid diwydiannol neu ar eu rhan. Gall nodau’r ymchwil a’r datblygu hwn fod yn amrywiol, ond yn nodweddiadol maent yn cynnwys:

  • Optimeiddio effeithlonrwydd treulio anerobig presennol neu brosesau cysylltiedig
  • Diagnosio a datrys heriau technegol penodol gyda chyfleusterau treulio anaerobig
  • Datblygu prosesau neu gynhyrchion newydd
  • Integreiddio prosesau anaerobig â seilwaith diwydiannol neu ynni presennol

Mae’r Ganolfan TA wedi’i lleoli yng Nghanolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol De Cymru ac mae’n adeiladu ar hanes o dros 40 mlynedd o wybodaeth academaidd ac arbenigedd yn y broses triniaeth anaerobig.