...

Ysgoloriaethau PhD KESS

Rhaglenni Ymchwil PhD sy'n Canolbwyntio ar Ddiwydiant

Mae'r Ganolfan TA yn croesawu nifer o fyfyrwyr PhD a ariennir gan KESS sy'n ymgymryd ag ymchwil arloesol i fynd i'r afael â phroblemau diwydiannol penodol. Ariennir ysgoloriaeth pob myfyriwr yn rhannol gan bartner diwydiannol ac yn rhannol gan raglen KESS ERDF, ac mae'n ymgymryd â rhaglen ymchwil 3 blynedd yn gweithio tuag at gyflwyno traethawd ymchwil PhD ar ddiwedd y prosiect. Cliciwch ar y logo KESS2 i fynd i hafan rhaglen KESS.

 

Math o Brosiect: Ysgoloriaeth PhD a Ariennir gan Dŵr Cymru Welsh Water/KESS.

Teitl yr Ymchwil: Optimeiddio gweddillion treuliad anaerobig slwtsh carthion trwy wella proffiliau microbaidd ac argaeledd metel hybrin.

 

Math o Brosiect: Ysgoloriaeth PhD a Ariennir gan Wales & West Utilities/KESS.

Teitl yr Ymchwil: Cynhyrchu CH4 gwyrdd gwell gyda storio ynni cost isel trwy strategaeth rheoli amser real ar gyfer gweithfeydd TA i gwrdd â galw amrywiol am nwy rhwydwaith.

 

Math o Brosiect: Ysgoloriaeth PhD a Ariennir gan Tata Steel UK Ltd/KESS.

Teitl yr Ymchwil: Ymchwilio i gadernid a dwysâd proses biomethaneiddio newydd ar gyfer adennill ynni yn y sector dur.

 

Math o Brosiect: Ysgoloriaeth PhD a Ariennir gan Bryn Power Ltd/KESS.

Teitl yr Ymchwil: Optimeiddio Dyluniad a Gweithrediadau Gweithfeydd Anaerobig ar gyfer Cynhyrchu Ynni Gwell a Rheoli Arogleuon.

 

Math o Brosiect: Ysgoloriaeth PhD a Ariennir gan Wales & West Utilities/KESS.

Teitl yr Ymchwil: Cynhyrchu nwyon alcan cadwyn uchel (C2-C4) o brosesau biolegol anaerobig.